Darparu cefnogaeth a hyrwyddo parch i bawb sydd â gwahaniaeth gweladwy

Palet o hufenau cuddliwio croen yn dangos ystod o liwiau ac arlliwiau

Cynhyrchion a phresgripsiynau cuddliwio croen

Dysgwch am y cynhyrchion y mae ymarferwyr Changing Faces yn eu defnyddio fel rhan o'r Gwasanaeth Cuddliwio Croen a sut i wirio a ydyn nhw ar gael ar bresgripsiwn.

Hufenau a phowdrau yw cynhyrchion cuddliwio croen y gellir eu defnyddio i wneud gwahaniaeth gweladwy, fel craith, marc neu gyflwr croen yn llai amlwg. Maen nhw’n wahanol i frandiau colur y stryd fawr am eu bod wedi’u llunio’n benodol i bara’n hirach a darparu gorchudd trymach.

Mae’r cynhyrchion hyn fel arfer ar gael ar bresgripsiwn yn y DU.

Ar y dudalen hon, rydym yn rhannu rhagor o wybodaeth am y cynhyrchion a ddefnyddiwn yn ystod ein hapwyntiadau Gwasanaeth Cuddliwio Croen ac yn egluro sut mae presgripsiynau ar gyfer y cynhyrchion hyn yn gweithio.

Pa gynhyrchion cuddliwio croen mae ein hymarferwyr yn eu defnyddio?

Mae ein hymarferwyr cuddliwio croen yn defnyddio amrywiaeth o hufenau a phowdrau cuddliw gan Dermacolor – powdrau yn unig (nid yw hufenau ar gael ar bresgripsiwn mwyach), Veil, Covermark a Keromask. Mae eu pecynnau’n cynnwys tua 150 o arlliwiau gan sicrhau y gallwn ni sicrhau cydweddiad da â phob lliw croen.

Mae’r cynhyrchion hyn wedi’u llunio’n benodol i ddarparu gorchudd mwy cyflawn a pharhaol na’r rhan fwyaf o frandiau colur traddodiadol y stryd fawr. Gallwch eu defnyddio ar eich wyneb neu’ch corff ac maent hefyd yn gwrthsefyll dŵr ac yn addas ar gyfer croen sensitif.

Trowch at ein tudalen bwrpasol i gael gwybod ymhellach beth yw cuddliw croen ac a allech chi elwa arno.

Menyw mewn top coch gyda fitiligo ar ei breichiau yn dal brwsys cuddliwio croen ac yn gwenu ar y camera

Gofynnwch am apwyntiad am ddim

Mae ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen arbenigol yn cynnig apwyntiadau gydag ymarferwyr cuddliwio croen hyfforddedig mewn clinigau ledled Cymru, Lloegr a'r Alban. Llenwch ein ffurflen i ofyn am apwyntiad am ddim.

Gofyn am apwyntiad

A yw cynhyrchion cuddliwio croen ar gael ar bresgripsiwn?

Mae cynhyrchion cuddliwio croen sy’n cael eu hargymell i chi yn ystod apwyntiad Gwasanaeth Cuddliwio Croen fel arfer ar gael ar bresgripsiwn. Ar ddiwedd eich apwyntiad, byddwch yn cael “ffurflen gais am bresgripsiwn”, y dylech ei thrafod gyda’ch meddyg teulu.

Efallai bydd gallu eich meddyg teulu i roi cynhyrchion yn rheolaidd ar bresgripsiwn yn cael ei benderfynu gan eich bwrdd gofal integredig GIG (ICB) lleol os ydych chi’n byw yn Lloegr, neu’ch Bwrdd Iechyd GIG lleol os ydych chi’n byw yng Nghymru neu’r Alban. Gall fod yn ddefnyddiol siarad â’ch meddyg teulu i esbonio sut mae cynhyrchion cuddliwio croen yn cefnogi eich iechyd a’ch lles meddyliol.

Mewn rhai achosion, efallai bydd meddyg teulu yn cwblhau Cais am Gyllid Unigol (IFR) ar gyfer y cynhyrchion, hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu rhagnodi’n rheolaidd lle rydych chi’n byw.

I gael gwybod rhagor am gael cynhyrchion cuddliw ar bresgripsiwn, cysylltwch â’r tîm cuddliwio croen drwy e-bostio [email protected] neu drwy’n ffonio ni ar 0300 012 0276.  Os mai Cymraeg yw eich dewis iaith, anfonwch e-bost atom gan nad oes gennym staff sy’n siarad Cymraeg ar gael dros y ffôn ar hyn o bryd.

You might also like