Darparu cefnogaeth a hyrwyddo parch i bawb sydd â gwahaniaeth gweladwy

Menyw'n dal amrywiaeth o gynhyrchion cuddliw croen wrth wyneb menyw wyn sydd â man geni ar ei wyneb.

Gwybodaeth am Guddliw Croen ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

Gwybodaeth am y Gwasanaeth Cuddliw Croen ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys beth ydyw, ble mae ar gael a sut mae'n cael ei ariannu.

Mae ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen arbenigol yn cefnogi pobl yng Nghymru, Lloegr a’r Alban sydd â chraith, marc neu gyflwr croen anheintus sy’n gofyn am help i wneud eu gwahaniaeth gweladwy yn llai amlwg.

Ar y dudalen hon, rydym yn darparu gwybodaeth i chi, fel gweithiwr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, am ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen. Rydym yn egluro beth ydyw, ble mae ar gael, sut mae’n cael ei ariannu a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar bobl sydd â gwahaniaeth neu anffurfiad gweladwy. Rydym hefyd yn esbonio sut i ofyn am apwyntiad i’ch claf.

Os ydych chi’n barod i wneud atgyfeiriad, defnyddiwch ein ffurflen atgyfeirio.

Atgyfeirio eich claf

Beth yw’r Gwasanaeth Cuddliwio Croen?

Mae byw gyda gwahaniaeth gweladwy yn gallu peri gofid mawr, yn enwedig i’r rhai sy’n destun syllu, sylwadau neu sylw digroeso. O ganlyniad, mae llawer o bobl â gwahaniaeth gweladwy yn cael trafferth gyda gorbryder cymdeithasol a diffyg hyder.

Hufenau a phowdrau llawn pigment yw cynhyrchion cuddliw croen ac mae modd eu rhoi dros greithiau a chyflyrau croen anheintus i’w helpu i weddu i’r lliw croen arferol. Mae’r cynhyrchion yn hawdd eu defnyddio, yn para’n hir ac yn gwrthsefyll dŵr. Mae cuddliw croen yn addas ar gyfer ystod eang o farciau, creithiau a chyflyrau ond does dim modd ei ddefnyddio ar groen heintiedig, llidus neu groen wedi torri. Hefyd, nid yw’n gallu gwastatau creithiau wedi codi, llenwi creithiau bylchog na newid teimlad y croen.

Mae hwn yn wasanaeth gwych ac roedd y fenyw welais i’n gwneud i mi deimlo mor gyfforddus ac fe ddes i allan mor hapus a llawer mwy hyderus.

Cleient Gwasanaeth Cuddliw Croen

Mae ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen arbenigol yn wasanaeth am ddim i’ch cleifion, er mwyn iddynt roi cynnig ar guddliw croen fel offeryn i reoli eu gwahaniaeth gweladwy. Mae modd gwneud apwyntiadau i unrhyw un dros 5 oed, ond mae angen i riant neu warcheidwad ddod gyda phlant a phobl ifanc dan 16 oed hefyd.

Rydym yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb, lle mae ein hymarferwyr cuddliw croen hyfforddedig yn siarad â’ch cleifion am eu pryderon ac yn rhoi cyngor ymarferol.

Yn ystod apwyntiad, bydd yr ymarferydd yn gofyn yn gyntaf sut y gall helpu ac yn gwrando ar anghenion y claf.

Gyda mewnbwn y claf, bydd yr ymarferydd wedyn yn cydweddu lliw. Dyma pryd mae’r hufenau cuddliw yn cael eu rhoi ar y croen fesul ychydig i weld pa arlliwiau sy’n gweddu i’r croen. Pan fyddwn wedi dod o hyd i’r lliw sy’n plesio’r claf, bydd yr ymarferydd yn defnyddio’r hufen hwn ac yna’n ychwanegu powdr.

Bydd yr ymarferydd yn dangos sut i ddefnyddio’r hufenau a’r powdrau. Bydd y claf hefyd yn cael cyfle i roi cynnig arnyn nhw eu hunain er mwyn gwybod sut i ddefnyddio’r cynhyrchion ar ei wyneb neu ei gorff.

Mae ein cleientiaid Gwasanaeth Cuddliwio Croen yn gadael yr apwyntiad gyda rhestr o gynhyrchion a argymhellir naill ai i ofyn am bresgripsiwn gan eu meddyg teulu neu i’w prynu eu hunain. Gallwch ddarllen mwy am y cynhyrchion y mae ein hymarferwyr cuddliwio croen yn eu defnyddio ac am bresgripsiynau ar gyfer cynhyrchion cuddliw croen ar ein tudalen bwrpasol.

Sut mae eich ymarferwyr yn cael eu hyfforddi?

Mae ein hymarferwyr yn cwblhau cwrs hyfforddi dwys sy’n cyfuno technegau cuddliwio croen ymarferol ochr yn ochr ag elfennau pwysig fel diogelu, diogelu data, a gofal cleientiaid. Yna maent yn datblygu eu sgiliau trwy gysgodi ymarferydd cuddliwio croen profiadol cyn cyflwyno ymgynghoriadau ar eu pennau eu hunain.

Ble mae’r gwasanaeth ar gael?

Mae ein clinig yng Nghymru ym Mracla, De Cymru. Mae’r clinig tua 40 munud mewn car o Gaerdydd ac Abertawe.

Rydym hefyd yn cynnig apwyntiadau yn Lloegr a’r Alban. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal clinigau yn:

  • Aberdeen
  • Birmingham
  • Bracla
  • Bryste
  • Caergrawnt
  • Dunfermline
  • Caeredin
  • Caerwysg
  • Glasgow
  • Swydd Lanark
  • Llundain
  • Luton
  • Manceinion
  • Nottingham
  • Orpington
  • Reading
  • Sheffield

Sut mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu?

Yn Lloegr, mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan y rhan fwyaf o fyrddau gofal integredig (ICB) yn ogystal â rhywfaint o incwm gwirfoddol. Yng Nghymru, mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan y GIG. Yn yr Alban, rydym yn cael ein hariannu’n rhannol gan rai o Fyrddau Iechyd y GIG ond daw’r rhan fwyaf o’r cyllid o incwm gwirfoddol. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i gleientiaid.

Mae ein gwasanaeth yn argymell hufenau a phowdrau cuddliwio croen sydd wedi’u rhestru ymhlith y rhai sydd ar gael ar bresgripsiwn y GIG yn unig. Ystyrir bod y cynhyrchion hyn yn rhai dewisol ac efallai y bydd y rheswm dros ddefnyddio cuddliw yn cael ei gyfyngu oherwydd polisi lleol (ICB yn Lloegr a Byrddau Iechyd yng Nghymru a’r Alban), a byddwn yn egluro hyn i’ch claf yn ystod ei apwyntiad.

Beth yw effaith y gwasanaeth?

Mae canllawiau Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF) yn datgan:

Gall [gwahaniaeth gweladwy] beri gofid mawr i gleifion a gall gael effaith seicolegol amlwg. Mewn dwylo medrus, neu gyda phrofiad, gall [cynhyrchion] cuddliw fod yn effeithiol iawn o ran [lleihau] creithiau a mannau geni.

Rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, fe wnaethom ddarparu ymgynghoriadau i bron i 2,000 o gleientiaid. Yn ystod y cyfnod hwnnw:

  • Dywedodd 98% o’n cleientiaid cuddliw croen eu bod yn fodlon neu’n hynod fodlon â’r gwasanaeth a gawsant.
  • Dywedodd 85% o’n cleientiaid cuddliw croen fod y gwasanaeth wedi eu helpu gyda’u pryderon sy’n gysylltiedig â’u golwg.

Gostyngodd nifer y cleientiaid a oedd yn crybwyll lefel isel o les 15% ar ôl eu hapwyntiad a chynyddodd y cleientiaid a oedd yn crybwyll lefel uchel o les 12%.

Mae eich ymarferydd yn glod i’ch gwasanaeth a’ch tîm. A wnewch chi ddweud eu bod wedi gwneud argraff faawr arnaf … Gadawais yn teimlo’n hyderus a ‘dyw fy nghreithiau ddim yn fy mhoeni i bellach.

Cleient Gwasanaeth Cuddliw Croen

Ydych chi’n dilyn canllawiau’r GIG ar reoli heintiau mewn clinig?

Ydyn, er diogelwch cleientiaid a staff rydym yn dilyn canllawiau’r GIG ar reoli heintiau mewn clinig.

Sut alla i atgyfeirio claf?

Dilynwch y ddolen isod i gyfeirio’ch claf at ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth, gan gynnwys ei addasrwydd i’ch claf, cysylltwch â’r tîm cuddliwio croen drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 012 0276. Os mai Cymraeg yw eich dewis iaith, anfonwch e-bost atom gan nad oes gennym staff sy’n siarad Cymraeg ar gael dros y ffôn ar hyn o bryd.

Ymarferydd cuddliw croen yn rhoi cuddliw croen ar ddefnyddiwr gwasanaeth

Atgyfeirio eich claf

Llenwch y ffurflen fer hon i atgyfeirio'ch claf i’r Gwasanaeth Cuddliwio Croen. Byddwn wedyn yn cysylltu â'ch claf i gael rhagor o fanylion ac i drefnu ei apwyntiad.

Atgyfeirio nawr