Darparu cefnogaeth a hyrwyddo parch i bawb sydd â gwahaniaeth gweladwy

Stori Joe “Peidiwch ag ofni gofyn am gymorth”

Ar ôl cael creithiau ar ei wyneb a'i gorff, dechreuodd Joe gau ei hun i ffwrdd i osgoi pobl yn syllu a barnu. Gyda chymorth tîm cuddliwio croen Changing Faces, buan y teimlai ei hyder yn tyfu.

Joe mewn crys-T gwyn yn gwisgo mwgwd wyneb gwyn

Fy enw i yw Joseph, rwy’n 24 oed ac rwy’n dod o Lerpwl. Rwy’n ymdrechwr iechyd meddwl gyda chyflyrau iechyd meddwl sy’n cynnwys anhwylder straen wedi trawma ac iselder a gorbryder.

Mae gen i greithiau ar fy wyneb a’m corff ers yn weddol ddiweddar. Mae’r creithiau hyn wedi effeithio arna i’n gorfforol ac yn emosiynol – pan fydd pobl yn syllu arna i’n gyhoeddus a phan rwyf wedi cael fy ngwrthod am swyddi gan nad ydw i’n “edrych yn addas”. Mewn un cyfweliad swydd, dywedodd rhywun wrthyf bod golwg rhywun sy’n chwilio am drafferth arna i, neu fel petawn i’n cymysgu â’r bobl anghywir. Fe ddywedon nhw hefyd y gallwn i godi ofn ar gwsmeriaid a gweithwyr.

Rwy’n poeni bod pobl yn edrych ar fy nghreithiau ac yn meddwl fy mod i’n berson treisgar, neu’n rhywun sy’n chwilio am gyfle i ymladd. Dydw i ddim eisiau ymddangos fel “dyn drwg” gan fod gen i greithiau, a gefais i heb fod unrhyw fai arnaf fi, ond yn anffodus, mae creithiau’n cael eu cynrychioli fel hyn ar y teledu ac mewn ffilmiau. Yn aml, mae’r dihirod yn cael eu portreadu â chreithiau a phrin y bydd cymeriadau da’n cael eu portreadu â chreithiau. Dw i’n credu bod y stereoteipiau negyddol hyn yn gwneud i bobl syllu arna i’n gyhoeddus, gan feddwl tybed pa fath o berson ydw i, a’r gwir yw fy mod i’n ddyn diffuant, cariadus a does dim bai arna i am fy nghreithiau.

Ers fy apwyntiad, rydw i wedi teimlo fel pe bai fy mywyd wedi dechrau eto. Dw i wedi dod o hyd i ystyr newydd a hyder newydd.

Joe.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae fy hyder wedi cael fwrw’n sylweddol. Cafodd ei fwrw a’i fwrw nes fy mod i’n methu mynd allan yn gyhoeddus. Byddwn i’n cuddio y tu ôl i ddrysau caeedig, neu’n ceisio cuddio fy wyneb cymaint â phosibl tra byddwn i allan am fy mod i’n poeni cymaint am gael fy meirniadu. Am fisoedd roeddwn i’n ei chael hi’n anodd edrych yn y drych neu gael ffotograffau wedi’u tynnu – allwn i ddim hyd yn oed edrych ar fy adlewyrchiad.

Roeddwn i’n gwybod bod rhaid imi stopio ceisio anwybyddu fy nghreithiau. Roedd yn cael gormod o effaith ar fy mywyd a’m hiechyd meddwl, ond doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w wneud.

Newidiodd hynny i gyd pan oeddwn i’n gwylio pennod o Emmerdale a oedd yn dilyn stori am gymeriad yn cael trafferth gyda’i greithiau ar ôl bod yn rhan o dân. Ar ôl y bennod, roedd neges i wylwyr yn eu cynghori i ofyn am gymorth Changing Faces os oedden nhw wedi teimlo’n debyg i’r cymeriad yn y bennod. Dyna pryd y gwnes i’r penderfyniad a gofyn am help.

Cefais fy atgyfeirio i’w tîm cuddliwio croen, a oedd yn garedig ac yn gefnogol ar unwaith. Cefais fy nysgu sut i roi’r cynhyrchion cuddliwio croen ar fy wyneb a’m breichiau i wneud fy nghreithiau’n llai amlwg. Roedd yn rhyfeddol!

Ers y foment y cerddais i mewn i’r ystafell driniaeth ac egluro fy mhrofiadau, mae’r tîm wedi bod yn gefnogol, yn barchus ac yn garedig. Maen nhw wedi rhoi fy hyder yn ôl i mi ac mae fy iechyd meddwl wedi gwella’n sylweddol – yn syth!

Heb Changing Faces, dw i ddim yn meddwl y byddwn i yma heddiw. Nawr, rwy’n gallu cerdded o gwmpas heb boeni am deimlo bod rhywun yn beirniadu sut rwy’n edrych. Dydw i ddim yn cael fy atgoffa’n gyson o’r trawma a achosodd fy nghreithiau. Yn syml iawn, rwy’n teimlo bod arnaf i fy mywyd i Changing Faces.

Os oes unrhyw un yn cael trafferth gyda’u croen, creithiau neu’r ffordd maen nhw’n edrych, dyma’r bobl i chi! Os oes gan unrhyw un ofn mynd at Changing Faces, neu os yw rhywun yn meddwl nad yw ei wahaniaeth yn deilwng neu’n “ddigon mawr” i gael help, peidiwch byth ag ofni gofyn am gymorth. Os yw eich gwahaniaeth gweladwy yn cael cymaint o effaith â hynny ar eich bywyd, byddan nhw yno i’ch helpu, waeth pa mor fawr neu fach yw’r gwahaniaeth hwnnw.

Ers fy apwyntiad, dw i wedi teimlo fel pe bai fy mywyd wedi dechrau eto. Dw i wedi dod o hyd i ystyr newydd a hyder newydd. Erbyn hyn, dw i’n edrych ar fy nghreithiau mewn ffordd wahanol hefyd. Maen nhw’n gyfrifol am bwy ydw i ac rydw i’n berson gwell a chryfach oherwydd hynny.

Ymarferydd cuddliw croen yn rhoi cuddliw croen ar ddefnyddiwr gwasanaeth

Gofynnwch am apwyntiad Gwasanaeth Cuddliwio Croen am ddim yng Nghymru

Mae ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen arbenigol yn cynnig apwyntiadau gydag ymarferwyr cuddliwio croen hyfforddedig. Llenwch ein ffurflen i ofyn am eich apwyntiad am ddim.

Gofynnwch am eich apwyntiad am ddim

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi

Gwasanaeth Cuddliwio Croen Cymru

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansio ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen arbenigol yng Nghymru, gyda chlinig newydd yn agor ym Mracla, Pen-y-bont ar Ogwr.