Beth yw cuddliw croen a beth i’w ddisgwyl yn eich apwyntiad
Rydym yn esbonio beth yw cuddliw croen a beth sy'n digwydd mewn apwyntiad Gwasanaeth Cuddliw Croen, yn ogystal â sut i ofyn am apwyntiad.
Cuddliw croen yw defnyddio hufenau a phowdrau arbenigol ar eich wyneb neu’ch corff i wneud eich craith, marc neu gyflwr (gwahaniaeth gweladwy) yn llai amlwg. Mae modd defnyddio’r cynhyrchion ar bob rhyw ac ar blant dros bump oed, gydag arlliwiau ar gyfer pob lliw croen.
Rydym yn darparu Gwasanaeth Cuddliw Croen oherwydd nid yw pawb yn gyfforddus â’i wahaniaeth gweladwy. Mae ein gwasanaeth yn cynnig dewis i chi dros eich ymddangosiad ac ymdeimlad o reolaeth ar eich golwg o ddydd i ddydd. Rydym yn gwybod bod hyn yn gallu magu hyder a’ch helpu i deimlo’n gryfach.
Rydym yn cynnig apwyntiadau am ddim gydag ymarferwyr cuddliw croen wedi’u hyfforddi ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
Ar y dudalen hon rydym yn trafod beth yw cuddliw croen a sut y gallai eich helpu chi, i bwy mae’n addas a beth sy’n digwydd yn ystod apwyntiad Gwasanaeth Cuddliw Croen.
Beth yw cuddliw croen?
Mae cynhyrchion cuddliw croen yn hufenau a phowdrau llawn pigment, sy’n para amser hir a ddefnyddir i wneud creithiau, marciau neu gyflyrau croen anheintus yn llai amlwg.
Mae cuddliw croen yn para amser hir, yn wrth-ddŵr ac mae modd ei ddefnyddio ar eich wyneb neu’ch corff. Daw’r cynhyrchion mewn amrywiaeth o arlliwiau a lliwiau, sy’n addas ar gyfer pob lliw croen.
Ar ôl y tro cyntaf imi ei ddefnyddio, roeddwn i’n teimlo hyder nad ydw i wedi’i deimlo ers blynyddoedd.
Cleient Gwasanaeth Cuddliw Croen.
A yw cuddliw croen yn addas i mi?
Mae modd defnyddio cuddliw croen ar bob rhywedd ac ar unrhyw un dros bump oed. Mae’r cynhyrchion yn addas ar gyfer pob lliw croen ac ar gyfer ystod mor eang o farciau, creithiau neu gyflyrau croen fel nad yw’n bosibl eu rhestru i gyd yma. Dim ond nifer fach o’r cyflyrau y mae pobl yn ei ddefnyddio ar eu cyfer yw’r canlynol:
Fitiligo neu golli lliw’r croen.
Creithiau sydd wedi gwella, gan gynnwys creithiau acne a chreithiau hunan-niweidio.
Gor-bigmentiad, er enghraifft, yn sgil melasma (a elwir hefyd yn cloasma).
Mannau geni.
Llosgiadau sydd wedi gwella.
Ni ellir rhoi cuddliw croen ar groen heintiedig, llidus neu groen wedi torri. Hefyd, nid yw’n gallu gwastatáu creithiau sydd wedi codi, llenwi creithiau danheddus na newid teimlad y croen — mae’n offeryn i orchuddio ardal o groen â lliw sy’n cydweddu â’r ardal gyfagos.
Os nad ydych yn siŵr a yw ein gwasanaeth yn addas i chi, yna cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 012 0276. Os mai Cymraeg yw eich dewis iaith, anfonwch e-bost atom gan nad oes gennym staff sy’n siarad Cymraeg ar gael dros y ffôn ar hyn o bryd.
Rwyf wedi cael llawer o bobl yn holi beth wnes i i’m hwyneb, sydd wedi bwrw fy hyder. Ers i’r fenyw fy helpu, nid yn unig i ddod o hyd i fy lliw ond hefyd dangos i mi sut i’w ddefnyddio, rwy’n teimlo’n llawer gwell amdanaf i fy hun
Cleient Gwasanaeth Cuddliw Croen.
Ynglŷn â Gwasanaeth Cuddliw Croen Changing Faces
Rydym yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb gydag ymarferwyr hyfforddedig mewn clinigau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau cyngor ar-lein a thros y ffôn. Rydym wedi rhoi gwybodaeth isod am yr hyn sy’n digwydd mewn apwyntiad cuddliw croen a’n sesiynau cyngor.
Apwyntiadau wyneb yn wyneb
Rydym yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb gydag ymarferwyr hyfforddedig mewn clinigau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Yn ystod eich apwyntiad, bydd yr ymarferydd yn gofyn yn gyntaf sut y gall eich helpu chi ac yn gwrando ar eich anghenion. Ar ôl hynny, bydd yn dangos yr ystod o gynhyrchion i chi ac yn gofyn i edrych ar eich croen.
Gyda’ch mewnbwn chi, bydd yr ymarferydd wedyn yn cydweddu lliw. Mae hyn yn golygu rhoi’r hufenau cuddliw ar eich croen fesul ychydig bach i weld pa arlliwiau sy’n cydweddu â’ch croen. Pan fyddwch wedi dod o hyd i liw sy’n eich plesio, bydd yr ymarferydd yn rhoi’r hufen hwn ar eich croen ac yna’n ychwanegu powdwr.
Yn ystod eich apwyntiad, bydd yr ymarferydd yn dangos sut i ddefnyddio’r hufenau a’r powdrau. Byddwch hefyd yn cael cyfle i roi cynnig arni eich hun fel eich bod yn gwybod sut i ddefnyddio’r cynhyrchion ar eich wyneb neu’ch corff.
Byddwch yn gadael yr apwyntiad gyda rhestr o gynhyrchion sydd wedi’u hargymell, naill ai i ofyn am bresgripsiwn gan eich meddyg teulu neu brynu’r cynhyrchion eich hun.
Roedd y fenyw mor garedig ac yn dda am wrando, ac yn dipyn o hwyl. Roedd hi mor hyfryd ac roeddwn i’n gallu ymlacio’n syth. Alla i ddim aros i fynd allan gyda’r cuddliw amdanaf. Diolch o galon i chi am eich holl gyngor.
Cleient Gwasanaeth Cuddliw Croen.
I gael gwybod rhagor am y cynhyrchion y mae ein hymarferwyr yn eu defnyddio yn ogystal â phresgripsiynau, ewch i’n tudalen cynhyrchion a phresgripsiynau.
Ar gyfer diogelwch cleientiaid a staff rydym yn dilyn canllawiau rheoli heintiau’r GIG yn y clinig.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth, gan gynnwys a yw’n addas i chi, yna gallwch gysylltu â’r tîm drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 012 0276. Os mai Cymraeg yw eich dewis iaith, anfonwch e-bost atom gan nad oes gennym staff sy’n siarad Cymraeg ar gael dros y ffôn ar hyn o bryd.
Ar ôl defnyddio cynhyrchion cuddliwio croen ers pan oedd hi'n blentyn, penderfynodd Felicity ddod yn Ymarferydd Cuddliwio Croen - a chefnogi eraill sy'n defnyddio ein gwasanaeth.
Ar ôl cael creithiau ar ei wyneb a'i gorff, dechreuodd Joe gau ei hun i ffwrdd er mwyn osgoi pobl yn syllu a barnu. Gyda chymorth tîm cuddliwio croen Changing Faces, buan y teimlodd ei hyder yn tyfu.
Gofyn am apwyntiad Gwasanaeth Cuddliw Croen yng Nghymru
Llenwch ein ffurflen i ofyn am apwyntiad cuddliw croen yng Nghymru wedi’i ariannu gan y GIG
Rydym yn rhannu ychydig o ddewisiadau yn lle Gwasanaeth Cuddliw Croen Changing Faces, gan gynnwys cuddliw croen preifat, pecynnau sampl a cholur y stryd fawr
Dysgwch am y cynhyrchion y mae ymarferwyr Changing Faces yn eu defnyddio fel rhan o'r Gwasanaeth Cuddliwio Croen a sut i wirio a ydyn nhw ar gael ar bresgripsiwn.
Gwybodaeth am y Gwasanaeth Cuddliw Croen ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys beth ydyw, ble mae ar gael a sut mae'n cael ei ariannu.