Drwy ddefnyddio gwefan Changing Faces a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill, rydych chi’n cytuno i’n telerau defnydd.
Mae Changing Faces yn cadw’r hawl i newid y telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg drwy bostio newidiadau ar-lein. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl i newidiadau gael eu postio, bydd hynny’n golygu eich bod yn derbyn y cytundeb hwn fel y’i diwygiwyd.
Ymwadiad
Mae Changing Faces yn darparu gwybodaeth a chymorth i oedolion, plant a phobl ifanc sy’n byw gyda chyflyrau, creithiau neu farciau sy’n effeithio ar y ffordd y maen nhw’n edrych.
Bwriad y wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill yw darparu gwybodaeth gyffredinol yn unig ac, felly, ni ddylid eu hystyried yn lle cyngor proffesiynol. Eich penderfyniad chi yw cysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu ymarferydd Changing Faces os ydych chi’n pryderu am lesiant oedolyn, plentyn neu berson ifanc.
Os yw oedolyn, plentyn, neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, dylech gysylltu â’r gwasanaethau brys.
Nid yw Changing Faces yn rhoi cyngor meddygol mewn perthynas ag unrhyw achos neu glaf unigol, ac nid yw gwefan Changing Faces yn darparu gwasanaethau meddygol na diagnostig. Os ydych chi’n weithiwr meddygol neu iechyd proffesiynol, yna fe’ch anogir i ddefnyddio gwefan Changing Faces at ddibenion gwybodaeth gyffredinol.
Nid yw Changing Faces yn gwarantu y bydd y wefan yn ddi-dor nac yn rhydd o wallau, nac y bydd y wefan na’ch defnydd ohoni yn rhydd o firysau na deunydd niweidiol. Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich cyfrifiadur yn addas i ddefnyddio’r wefan.
Defnyddio ein gwefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill
Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r wefan hon a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Changing Faces at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw’n torri hawliau, nac yn cyfyngu nac yn atal defnydd a mwynhad y wefan gan unrhyw drydydd parti.
Ac eithrio fel y caniateir yn y telerau defnydd hyn, ni chewch newid y wefan mewn unrhyw ffordd na gwneud unrhyw beth a allai neu a fydd yn niweidio neu’n tarfu ar weithrediad da’r wefan neu ein hoffer neu feddalwedd.
Gwybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni
Rydych chi’n cytuno bod unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni yn wir. Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni drwy’r wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill yn cael ei thrin yn unol â’n polisi preifatrwydd.
Hawlfraint a monitro
Mae cynnwys y wefan yn eiddo i Changing Faces neu drydydd partïon. Ni chaniateir copïo, defnyddio nac atgynhyrchu unrhyw gynnwys o’r wefan heb ein caniatâd ysgrifenedig, ac eithrio lle caiff ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil a defnydd anfasnachol lle nad oes angen caniatâd.
Anfonwch eich ceisiadau ysgrifenedig i ddefnyddio cynnwys o’r wefan at y tîm cyfathrebu drwy e-bostio [email protected].
Safleoedd cysylltiedig
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti yn y DU a thramor. Caiff y rhain eu hadolygu’n rheolaidd yn unol â meini prawf Changing Faces eu hunain ar gyfer gwybodaeth o ansawdd.
Oni nodir yn wahanol, darperir y dolenni hyn fel ffynonellau gwybodaeth defnyddiol eraill. Nid oes unrhyw fath o gymeradwyaeth gan Changing Faces o ran eu cynnwys na’u hansawdd yn cael ei hawgrymu.
Nid yw Changing Faces yn gyfrifol am gynnwys, na nwyddau a gwasanaethau a brynir drwy unrhyw wefan trydydd parti y mae modd cael ati drwy’r wefan hon. Os fyddwch yn penderfynu ymweld â gwefannau trydydd parti, rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun.
Mae eich defnydd o wefannau trydydd parti yn destun telerau ac amodau defnydd ar gyfer y safleoedd hynny. Mae Changing Faces yn gwadu pob atebolrwydd sy’n deillio o’ch defnydd o wybodaeth ar unrhyw wefannau cysylltiedig.
Cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr
Os byddwch chi’n uwchlwytho unrhyw gynnwys i’n gwefan neu lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, rydych chi’n cytuno i dderbyn y rheolau tŷ canlynol bob amser:
- Ni chewch bostio nac uwchlwytho unrhyw gynnwys na defnyddio’r wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd sy’n torri unrhyw gyfraith.
- Ni chewch bostio nac uwchlwytho unrhyw gynnwys na defnyddio’r wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd sy’n sarhaus, yn fygythiol, yn ddifenwol, yn ddi-chwaeth, yn anweddus, yn aflonyddgar, yn ffug, yn gamarweiniol, neu’n annibynadwy, neu sy’n dwyn neu sy’n debygol o ddwyn anfri ar y wefan neu Changing Faces.
- Rydych yn cytuno i beidio â chyfrannu cynnwys a fydd yn torri hawliau defnyddiwr, sefydliad neu berson arall (gan gynnwys hawliau preifatrwydd neu gyhoeddusrwydd).
- Mae Changing Faces yn gweithredu polisi cymedroli adweithiol. Nid yw Changing Faces yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gynnwys ond mae’n cadw’r hawl i ddileu neu olygu unrhyw gynnwys ar unrhyw adeg.
- Rydych chi’n gwbl gyfrifol am yr holl gynnwys yr ydych yn ei bostio ar y wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, ac am ddeunyddiau (gan gynnwys er enghraifft negeseuon e-bost) yr ydych yn eu hanfon mewn cysylltiad â’r wefan.
- Rhowch wybod i ni ar unwaith drwy e-bostio [email protected] os ydych chi neu ddefnyddwyr eraill yn torri unrhyw un o’r rheolau hyn, neu os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch deunydd a bostiwyd ar y wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
- Mae defnyddio eich mynediad at y wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i anfon e-bost swmp neu sbam digroeso yn cael ei wahardd.
- Mae Changing Faces yn cadw’r hawl i atal neu derfynu eich mynediad at y wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill ar unwaith ar unrhyw adeg.
- Gall Changing Faces ddefnyddio unrhyw gynnwys yr ydych yn ei bostio ar y wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill at unrhyw ddiben yn amodol ar ein polisi preifatrwydd.
- Os bydd eich mynediad at y wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn cael ei derfynu neu ei atal am unrhyw reswm, ni chewch fynd i’n gwefan nac unrhyw lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill Changing Faces heb gael ein caniatâd ymlaen llaw.
Gwybodaeth gyfreithiol
Mae Changing Faces yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (Rhif 1011222) a’r Alban (Rhif SC039725) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant wedi’i gofrestru yn Lloegr Rhif 2710440.
Swyddfa Gofrestredig: The Circle, 33 Rockingham Lane, Sheffield, S1 4FW.