Yn Changing Faces, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu’r gwasanaeth o’r ansawdd uchaf posibl i bobl y mae gwahaniaeth gweladwy’n effeithio arnynt, yn ogystal ag unrhyw un sy’n cefnogi neu sydd â diddordeb yn ein gwaith.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod pethau’n mynd o chwith weithiau ac os oes gennych gŵyn, rydym yn eich annog i gysylltu â ni – mae hyn yn caniatáu inni helpu i gywiro pethau ac yn ein helpu i wella ar gyfer y dyfodol.
Mae modd gwneud cwynion ar lafar (yn bersonol neu dros y ffôn) a/neu’n ysgrifenedig (trwy e-bost neu lythyr). Er mwyn ein helpu i ddelio â’ch cwyn yn effeithiol, dywedwch beth sydd/oedd yn anfoddhaol neu’n annerbyniol a phryd y digwyddodd hynny.
Os yw eich cwyn yn rhywbeth o fewn ein cyfrifoldeb neu ein dylanwad, byddwn yn gwneud ein gorau i ddatrys y mater ar unwaith. Os na fydd hynny’n bosibl, byddwn yn ymdrin â’ch cwyn yn y ffordd ganlynol.
Cwynion ynglŷn â chodi arian
Rydym wedi cofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian ac felly’n dilyn Cod Ymarfer Codi Ariany rheoleiddiwr. Felly rydym yn dilyn gweithdrefn gwyno codi arian gadarn a thryloyw, fel a ganlyn:
- Byddwn yn cydnabod y gŵyn neu’r ymholiad am godi arian yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod.
- Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad ein hymchwiliad o fewn 30 diwrnod i dderbyn y gŵyn.
- Os nad ydych yn hapus â chanlyniad ein hymchwiliad, cysylltwch â’r Rheoleiddiwr Codi Arian – dylech gyfeirio eich cwyn atynt o fewn deufis i’n hymateb ni.
Gallwch anfon eich cwyn gan ddefnyddio ffurflen gwyno ar-lein y Rheoleiddiwr Codi Arian neu drwy ysgrifennu atynt yn:
Fundraising Regulator
2nd Floor, CAN Mezzanine
49-51 East Road
London, N1 6AH
Os oes angen cyngor pellach arnoch neu os na allwch gwyno’n ysgrifenedig am unrhyw reswm, gallwch gysylltu â’r Rheoleiddiwr Codi Arian dros y ffôn ar 0300 999 3407.
Bydd y rheoleiddiwr yn ymchwilio i’r gŵyn ac yn ceisio ei datrys gyda phawb dan sylw. Bydd yr amser a gymerir i ymchwilio yn dibynnu ar gymhlethdod yr achos. Fodd bynnag, eu nod yw cwblhau ymchwiliadau o fewn 13 wythnos.
Mae gan y Rheoleiddiwr Codi Arian y disgresiwn i nodi naill ai nad oes unrhyw gamau pellach yn briodol neu i geryddu elusen a rhagnodi un neu fwy o sancsiynau.
Dylech wybod ein bod yn cadw cofnod o bob cwyn, sy’n cynnwys:
- Copi o’r gŵyn.
- Manylion yr adran o’r Cod Ymarfer Codi Arian y credir ei bod wedi’i thorri.
- Y dyddiad y cawsom y gŵyn.
- Copi o’r holl gyfathrebu mewn cysylltiad â’r gŵyn.
- Manylion yr ymchwiliad a gynhaliwyd gennym i’r gŵyn.
Byddwn bob amser yn sicrhau bod gwybodaeth briodol yn cael ei darparu i’r Rheoleiddiwr Codi Arian am y cwynion a gawn.
Cwynion eraill
Os oes gennych gŵyn nad yw’n gysylltiedig â chodi arian, cysylltwch â ni drwy unrhyw un o’r llwybrau canlynol:
- Ffonio 0345 450 0275
- Anfon e-bost at [email protected]
- Anfon llythyr yn y post at:
Changing Faces
The Circle, 33 Rockingham Lane
Sheffield
S1 4FW
Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl, gan gynnwys y canlynol.
- Beth aeth o’i le.
- Ble a phryd y digwyddodd.
- Enwau’r bobl dan sylw.
- Pa ganlyniad rydych chi’n gobeithio amdano.
- Eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad, rhif ffôn yn ystod y dydd, e-bost).
Ar ôl i ni gael eich cwyn, bydd:
- Yn cael ei hasesu a’i chydnabod o fewn pum diwrnod gwaith, gan ddweud wrthych pwy fydd yn delio â’ch cwyn a chan bwy i ddisgwyl ymateb.
- Yn cael ei throsglwyddo i’r rheolwr priodol i ymchwilio ac ymateb iddi.
Yna bydd y sawl sy’n ymdrin â’r ymchwiliad yn rhoi ymateb llawn i chi o fewn 20 diwrnod gwaith i’w chael yn wreiddiol.
Bydd pob cwyn yn cael ei thrin gyda’r graddau priodol o gyfrinachedd a dim ond yn ôl yr angen ar gyfer yr ymchwiliad y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu â staff.
Os byddwch yn anfodlon o hyd â’n hymateb i’ch cwyn, efallai y byddwch chi’n ystyried cysylltu â Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr:
- Dros y ffôn: 0300 066 9197
- Drwy wefan y Comisiwn Elusennau
- Trwy’r post:
Charity Commission
PO BOX 211
Bootle
L20 7YX
Os ydych yn yr Alban, byddai angen i chi gysylltu â Rheoleiddiwr Elusennau’r Alban (OSCR):
- Dros y ffôn: 01382 220446
- Drwy wefan OSCR
- Trwy’r post:
The Scottish Charity Regulator (OSCR)
2nd Floor
Quadrant House
9 Riverside Drive
Dundee
DD1 4NY
Sut rydym yn dilyn cwynion
Er mwyn i ni wella ein gwaith, efallai y byddwn yn cysylltu â chi o fewn mis i’ch cwyn gael ei thrin er mwyn gwirio eich bod yn fodlon â’n datrysiad.