Beth yw cuddliw croen a sut y gall helpu?
Rydym yn egluro beth yw cuddliwio croen a beth sy'n digwydd mewn apwyntiad Gwasanaeth Cuddliwio Croen, yn ogystal â sut i ofyn am apwyntiad.

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi lansio ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen arbenigol yng Nghymru, gyda chlinig newydd yn agor ym Mracla, Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Gwasanaeth Cuddliwio Croen Changing Faces yn defnyddio hufenau a phowdrau arbenigol ar yr wyneb neu’r corff, i wneud creithiau, marciau a chyflyrau croen yn llai amlwg. Mae’r gwasanaeth yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb am ddim gydag ymarferwyr hyfforddedig lle mae cleientiaid yn cael gwasanaethu cydweddu lliw personol, hyfforddiant ar ddefnyddio ac argymhellion cynnyrch. Pan gânt eu gosod yn gywir, mae’r hufenau a’r powdrau hyn yn para’n hir, yn dal dŵr ac mae modd eu gwisgo o ddydd i ddydd, yn ystod chwaraeon a nofio.
Yn addas ar gyfer pob rhyw ac unrhyw un dros 5 oed, mae ein gwasanaeth yn cynnig dewis i gleientiaid dros eu golwg ac yn cynyddu hyder a theimlad o reolaeth dros y ffordd maen nhw am edrych o ddydd i ddydd.
Mae ein clinig newydd yng Nghymru mewn man cyfleus ym Mracla, Pen-y-bont ar Ogwr, gan wneud gwasanaethau cuddliwio croen proffesiynol yn hygyrch i gymunedau ledled De Cymru. Darperir apwyntiadau am ddim i gleientiaid ac ar ôl eu hapwyntiad, mae cynhyrchion sydd wedi’u hargymell ar gael trwy bresgripsiwn yn ôl disgresiwn y meddyg teulu, neu gellir eu prynu’n breifat.
Ar ôl y tro cyntaf imi ei ddefnyddio, roeddwn i’n teimlo hyder nad ydw i wedi’i deimlo ers blynyddoedd.
Trowch at yr atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir i ni am ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 012 0276. Os Cymraeg yw eich dewis iaith, anfonwch e-bost atom oherwydd nid oes gennym staff sy’n siarad Cymraeg ar gael dros y ffôn ar hyn o bryd.
Mae modd defnyddio cuddliw croen ar bob rhyw ac unrhyw un dros bump oed. Mae'r cynhyrchion yn addas i bob lliw croen ac ar gyfer ystod eang o farciau, creithiau neu gyflyrau croen. Gallwch ddysgu mwy am ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen ar ein tudalen beth yw cuddliwio croen.
Mae ein clinig yng Nghymru ym Mracla, De Cymru. Mae'r clinig tua 40 munud o daith mewn car o Gaerdydd ac Abertawe. Mae gennym glinigau yn Lloegr a'r Alban hefyd. Mae rhagor o fanylion am y clinigau eraill hyn ar gael ar y wefan Saesneg.
Mae ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen wedi'i ariannu'n rhannol gan y GIG, felly does dim cost i chi. Mae'r cynhyrchion sy’n cael eu hargymell i chi yn ystod apwyntiad Gwasanaeth Cuddliwio Croen fel arfer ar gael ar bresgripsiwn yn ôl disgresiwn y meddyg teulu ac yn dibynnu ar ganllawiau rhagnodi'r Bwrdd Iechyd lleol. Ar ddiwedd eich apwyntiad, byddwch yn cael ffurflen gais am bresgripsiwn, y dylech ei thrafod gyda'ch meddyg teulu. Mae modd prynu’r cynhyrchion sydd wedi’u hargymell yn breifat hefyd, a chewch wybodaeth yn ystod eich apwyntiad.
I ofyn am apwyntiad cuddliwio croen, ewch i'n tudalen archebu.
Gallwch, mae ein Gwasanaethau Cuddliwio Croen arbenigol yn derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr meddygol proffesiynol. Trowch at y dudalen bwrpasol i weithwyr meddygol proffesiynol i gael gwybod rhagor. Os hoffech atgyfeirio i glinig yn Lloegr neu'r Alban, ewch i’n gwefan Saesneg.

Mae ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen arbenigol yn cynnig apwyntiadau gydag ymarferwyr cuddliwio croen hyfforddedig. Llenwch ein ffurflen i ofyn am eich apwyntiad am ddim.
Gofyn am eich apwyntiad am ddimRydym yn egluro beth yw cuddliwio croen a beth sy'n digwydd mewn apwyntiad Gwasanaeth Cuddliwio Croen, yn ogystal â sut i ofyn am apwyntiad.
Dysgwch am y cynhyrchion y mae ein hymarferwyr yn eu defnyddio fel rhan o'r Gwasanaeth Cuddliwio Croen a sut i wirio a ydyn nhw ar gael ar bresgripsiwn.
Dysgwch fwy am sut y gallai cuddliwio croen helpu eich claf, gweld y cynhyrchion a'r presgripsiynau rydyn ni'n eu cynnig a gwneud atgyfeiriad trwy ein ffurflen ar-lein.