Gwasanaeth Cuddliwio Croen Cymru
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansio ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen arbenigol yng Nghymru, gyda chlinig newydd yn agor ym Mracla, Pen-y-bont ar Ogwr.

Ar ôl defnyddio cynhyrchion cuddliwio croen ers pan oedd hi'n blentyn, penderfynodd Felicity ddod yn Ymarferydd Cuddliwio Croen - a chefnogi eraill sy'n defnyddio ein gwasanaeth.
Helo, Felicity ydw i ac rwy’n gweithio gyda Changing Faces fel Ymarferydd Cuddliwio Croen ers tua tair blynedd.
Rydw i wedi bod yn defnyddio’r cynhyrchion cuddliwio croen sydd ar gael trwy’r gwasanaeth hwn fy hun ers amser maith – ers pan oeddwn i’n blentyn mewn gwirionedd. Fe wnaeth i mi ystyried sut mae cael y cynhyrchion hyn ar gael i mi wedi siapio fy mywyd.
Mae defnyddio cuddliw croen wedi rhoi’r hyder i mi ffurfio perthnasoedd a dilyn gyrfa sy’n ymwneud â chleifion. Mae wedi caniatáu i mi ymdrin â llawer o sefyllfaoedd bywyd heb deimlo’n hunanymwybodol. Mae wedi fy helpu i fod y fersiwn orau a mwyaf naturiol ohonof fi fy hun.
Mae defnyddio cuddliw croen wedi rhoi’r hyder i mi ymdrin â llawer o sefyllfaoedd bywyd heb deimlo’n hunanymwybodol.
Sylweddoli hyn wnaeth i mi archwilio sut y gallwn i gefnogi eraill i ddefnyddio’r cynhyrchion sydd wedi fy helpu i cymaint.
Roeddwn i wedi datblygu rhywfaint o arbenigedd mewn cuddliwio croen trwy fy mhrofiadau fy hun, ac roeddwn i’n teimlo y gallwn i ddefnyddio hyn er budd eraill nad oedden nhw’n gwybod am yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw.
Bryd hynny y des i ar draws Changing Faces a darganfod rôl yr Ymarferydd Cuddliwio Croen. Roedd yn teimlo fel y swydd berffaith i mi!
Er fy mod i wedi defnyddio’r cynhyrchion ers nifer o flynyddoedd, roedd gen i lawer i’w ddysgu. Doedd gen i ddim syniad am yr amrywiaeth o greithiau, marciau a chyflyrau y gallwn i ddod ar eu traws, a’r holl dechnegau gwahanol y byddai angen i mi eu meistroli i sicrhau bod pob cleient yn cael y profiad gorau posibl.
Dysgais i fwy hefyd am yr effaith emosiynol y gall cael gwahaniaeth gweladwy ei chael ar unigolyn, ei anwyliaid, perthnasoedd, dewisiadau gyrfa – mewn gwirionedd, ei holl ansawdd bywyd.
O ganlyniad i hyn, fe ddatblygais i empathi fel ymarferydd. Rydw i hefyd bob amser yn atgoffa fy hun y gall dod i’r apwyntiad cyntaf hwnnw fod yn gam enfawr i bobl – ac felly mae angen i mi wneud beth bynnag y gallaf i i’w gwneud nhw’n gyfforddus.
Yn gyntaf, byddwch (wrth gwrs!) yn cael croeso cynnes iawn. Mae hwn yn lle diogel lle na fydd neb yn eich barnu chi na’ch gwahaniaeth gweladwy.
Rwy’n aml yn clywed pobl yn ymddiheuro am eu bod nhw’n gwastraffu fy amser, ac yn aml rwy’n clywed ymadroddion fel “Mae’n siŵr nad yw’n ddim byd,” neu “Rhaid eich bod wedi gweld cymaint yn waeth.”
Os yw unigolyn wedi cymryd yr amser i ddod o hyd i’r gwasanaeth, yna mae’n amlwg bod ei wahaniaeth gweladwy yn effeithio ar ei fywyd. Dyna lle gallwn ni ei roi ar ben ffordd i ddyfodol mwy cadarnhaol.
Ffocws yr apwyntiad fydd dod o hyd i’r lliw cywir i chi a’ch tywys trwy dechnegau defnyddio’r cynnyrch. Ar hyd y ffordd, bydd digonedd o gyfleoedd i drafod y gwahanol opsiynau sydd ar gael ac i chi ymarfer y sgiliau sydd wedi’u dangos.
Rwy’n aml yn clywed pobl yn ymddiheuro am eu bod nhw’n gwastraffu fy amser, ac yn aml rwy’n clywed ymadroddion fel “Mae’n siŵr nad yw’n ddim byd,” neu “Rhaid eich bod wedi gweld cymaint yn waeth.”
Pan fyddwn wedi dod o hyd i liw sy’n eich plesio, gallwch brynu’r cynhyrchion. Efallai y byddwch hyd yn oed yn gymwys i gael eich cynhyrchion drwy’r GIG. Os felly, byddwch yn cael ffurflen gais am bresgripsiwn y gallwch fynd â hi at eich meddyg teulu.
Un o’r pethau mwyaf boddhaol am fod yn Ymarferydd Cuddliwio Croen yw gweld yr olwg ar wynebau ein cleientiaid ar ddiwedd eu hapwyntiadau.

Mae rhai pobl yn cyrraedd yn edrych yn bryderus ac yn hunanymwybodol, ond maen nhw’n gadael gyda hunan-barch newydd ac yn llawn gobaith. Rydyn ni hyd yn oed yn gweld dagrau o lawenydd! Mae’n gymaint o fraint i mi allu helpu pobl i gael eu hunanhyder yn ôl. Gallaf ddweud yn onest fy mod i wrth fy modd yn fy swydd.
Y peth pwysicaf mae’r apwyntiad hwn yn ei roi i chi yw dewis. Mae rhai pobl yn defnyddio ein cynhyrchion cuddliwio croen bob dydd, er mwyn teimlo’n fwy hyderus. Mae rhai pobl yn defnyddio cuddliw croen ar ddiwrnodau pan fyddan nhw’n teimlo’n llai hyderus yn eu gwahaniaeth gweladwy pan fyddan nhw allan yn gyhoeddus. Dydy pawb ddim yn teimlo’r angen i guddio eu gwahaniaeth gweladwy. Mae’r penderfyniad yn un personol i chi ac nid ydym yn barnu, beth bynnag yw eich dewisiadau.
Os oes unrhyw un yn byw gyda gwahaniaeth gweladwy sy’n effeithio ar ei allu i fyw bywyd llawn a hapus mewn unrhyw ffordd, byddwn yn ei annog i gymryd y camau cyntaf a chysylltu â Changing Faces i gael gwybod am yr holl wasanaethau maen nhw’n eu cynnig.
Maen nhw’n dîm gwych, cefnogol a fydd yno i’ch helpu chi i oresgyn unrhyw heriau, o ran sut rydych chi’n edrych, sy’n eich wynebu.

Mae ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen arbenigol yn cynnig apwyntiadau gydag ymarferwyr cuddliwio croen hyfforddedig. Llenwch ein ffurflen i ofyn am eich apwyntiad am ddim.
Gofyn am eich apwyntiad am ddimRydym yn falch iawn o gyhoeddi lansio ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen arbenigol yng Nghymru, gyda chlinig newydd yn agor ym Mracla, Pen-y-bont ar Ogwr.
Ar ôl cael creithiau ar ei wyneb a'i gorff, dechreuodd Joe gau ei hun i ffwrdd er mwyn osgoi pobl yn syllu a barnu. Gyda chymorth tîm cuddliwio croen Changing Faces, buan y teimlodd ei hyder yn tyfu.
Rydym yn egluro beth yw cuddliwio croen a beth sy'n digwydd mewn apwyntiad Gwasanaeth Cuddliwio Croen, yn ogystal â sut i ofyn am un.