Darparu cefnogaeth a hyrwyddo parch i bawb sydd â gwahaniaeth gweladwy

Natalie gyda cholur cuddliwio croen, yn edrych at y camera

Gofynnwch am apwyntiad Gwasanaeth Cuddliwio Croen yng Nghymru

Ar y dudalen hon gallwch lenwi ffurflen i ofyn am apwyntiad Gwasanaeth Cuddliwio Croen a darganfod pa mor hir yw ein rhestrau aros.

Cuddliwio croen yw defnyddio hufenau a phowdrau arbenigol, llawn pigment y mae modd eu defnyddio i wneud craith, marc neu gyflwr croen yn llai amlwg. Mae ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen arbenigol yn cynnig apwyntiadau am ddim gydag ymarferwyr cuddliwio croen hyfforddedig mewn clinigau ledled Lloegr a’r Alban.

Dewis y math cywir o apwyntiad i chi

Rydym yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb yn ogystal â sesiynau cynghori ar-lein a thros y ffôn. Fodd bynnag, dim ond mewn apwyntiadau wyneb yn wyneb y gallwn gynnig cydweddu lliwiau. Os nad ydych chi’n siŵr pa opsiwn fyddai orau i chi, gweler y canllaw i’n Gwasanaeth Cuddliwio Croen.

Mae ein clinig yng Nghymru ym Mracla, De Cymru. Mae’r clinig tua 40 munud o daith mewn car o Gaerdydd ac Abertawe.

Gallwch hefyd gysylltu â’r tîm drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 012 0276. Os mai Cymraeg yw eich dewis iaith, anfonwch e-bost atom gan nad oes gennym staff sy’n siarad Cymraeg ar gael dros y ffôn ar hyn o bryd.

Mae hwn yn wasanaeth mor wych ac rwy’n hynod ddiolchgar am y gofal gefais i.

Cleient Gwasanaeth Cuddliw Croen.

Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch i lenwi’r ffurflen

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Eich rhif GIG. Gallwch ddod o hyd i hwn ar unrhyw ohebiaeth ysgrifenedig gan eich meddygfa neu ysbyty gan gynnwys presgripsiynau, canlyniadau profion neu lythyrau, neu gallwch gysylltu â’ch meddyg teulu i gael hwn.
  • Manylion eich meddyg teulu. Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i wirio a oes cynhyrchion cuddliwio croen ar gael ar bresgripsiwn yn eich ardal. Mae ein hapwyntiadau cuddliwio croen yn cael eu hariannu’n rhannol gan y GIG, ac mae angen cadarnhad arno eich bod wedi mynychu.

Beth fydd yn digwydd wedyn?

Ar ôl ichi lenwi’r ffurflen gais isod, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau bod eich cais wedi dod i law. Yna byddwn mewn cysylltiad i drefnu eich apwyntiad cyn gynted ag y bydd lle ar gael.  Mae amseroedd aros yn amrywio rhwng lleoliadau clinig, ond ein nod yw cynnig apwyntiad i chi o fewn chwech i wyth mis i gael eich ffurflen wedi’i llenwi.

Os na chewch yr e-bost cadarnhau neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost neu’r rhif ffôn isod.

Gofyn am apwyntiad

Gofynnwch am apwyntiad am ddim gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

Os hoffech chi drefnu apwyntiad yn Lloegr neu’r Alban, ewch i’n gwefan Saesneg.

Rydym wedi ceisio sicrhau bod ein clinigau yn hygyrch i bawb. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, rhowch wybod i ni pan fyddwn yn cysylltu â chi i drefnu eich apwyntiad.

Os cewch chi unrhyw drafferth wrth lenwi'r ffurflen hon, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â'n Gwasanaeth Cuddliwio Croen trwy ffonio 0300 012 0276, neu anfonwch e-bost i [email protected]

Os ydych chi'n byw yn Lloegr neu'r Alban, cliciwch yma i weld ein prif dudalen atgyfeirio: https://www.changingfaces.org.uk/services-support/skin-camouflage-service/register-interest-skin-camouflage/ 
If you would prefer to complete this form in English, please click here to go to the English language referral page: https://www.changingfaces.org.uk/services-support/skin-camouflage-service/register-interest-skin-camouflage/


Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael caniatâd y person rydych chi'n ei gyfeirio.

Contact Information






Dechreuwch deipio eich cyfeiriad yma




Rhowch rif ffôn y cartref yma os nad oes rhif ffôn symudol







Diwrnod geni
Mis Geni
Blwyddyn Geni
Eu Dyddiad geni:



Rhowch rif ffôn y cartref yma os nad oes rhif ffôn symudol




Mae arnom angen cyfeiriad e-bost pobl ifanc 13–15 oed er mwyn i ni fesur effaith ein gwasanaethau. Bydd negeseuon ynghylch yr apwyntiad yn dal i gael eu hanfon at gyfeiriad e-bost y gofalwr.

Eu cyfeiriad

Dechreuwch deipio eich cyfeiriad yma




Diwrnod GeniMis GeniBlwyddyn Geni
Dyddiad geni:



Mae arnom angen cyfeiriad e-bost pobl ifanc 13–15 oed er mwyn i ni fesur effaith ein gwasanaethau. Bydd negeseuon ynghylch yr apwyntiad yn dal i gael eu hanfon at gyfeiriad e-bost y gofalwr.



Self Referral Details



Sgroliwch i weld y dewisiadau










Sylwch mai Saesneg fydd yr Ymarferwyr Cuddliwio Croen yn ei siarad, byddant yn gweithio ar eu pennau eu hunain, a gallant fod o unrhyw rywedd

Byddwn yn trefnu cyfieithydd o bell. Gallwch ddod â rhywun gyda chi os yw hynny’n well gennych.


Os nad ydych yn siŵr, ysgrifennwch 'anhysbys' neu 'mwy nag un'.

Dechreuwch deipio enw a chyfeiriad y practis







Eu Manylion Atgyfeirio



Scroll for options










Sylwch mai Saesneg fydd yr Ymarferwyr Cuddliwio Croen yn ei siarad, byddant yn gweithio ar eu pennau eu hunain, a gallant fod o unrhyw rywedd


Byddwn yn trefnu cyfieithydd o bell. Gallwch ddod â rhywun gyda chi os yw hynny’n well gennych.

Os nad ydych yn siŵr, ysgrifennwch 'anhysbys' neu 'mwy nag un'.

Dechreuwch deipio enw a chyfeiriad y practis





























Dewisiadau cysylltu a chyflwyno


Byddwn yn defnyddio hyn i anfon diweddariadau i chi!



Gallwch newid yr hyn rydym yn ei anfon atoch ar unrhyw adeg ac ni fyddwn byth yn gwerthu eich manylion i drydydd partïon.

Mae ein polisi preifatrwydd isod. Rydym o ddifrif am ddiogelu eich data personol. Byddwn yn trin eich data personol yn gyfrinachol ac yn unol â'r rheoliadau diogelu data statudol. Drwy roi eich data i ni, rydych yn rhoi caniatâd i ni gofnodi eich manylion ar ein cronfa ddata ddiogel. Byddwn yn defnyddio eich manylion i gyfathrebu â chi ac er mwyn darparu ein gwasanaeth i chi. Byddwn yn gofyn i'r Grŵp Comisiynu Clinigol lle mae eich meddyg teulu wedi'i gofrestru i gyfrannu at gost eich triniaeth, a gallai hyn olygu rhannu rhywfaint o’ch data gyda chyrff y GIG mewn ambell i achos. Ar ôl cwblhau eich triniaeth, bydd eich data’n cael eu defnyddio'n ddienw ac at ddibenion ystadegol yn unig. Ni fyddwn byth yn defnyddio'ch data at unrhyw ddiben arall nac ychwaith yn rhannu eich data heb eich caniatâd. 

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen ein datganiad preifatrwydd cyn i chi gyflwyno eich atgyfeiriad.





Os oes angen cymorth arnoch i lenwi’r ffurflen hon neu os oes gennych gwestiynau am y gwasanaeth, cysylltwch â’r tîm drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 012 0276. Os mai Cymraeg yw eich dewis iaith, anfonwch e-bost atom gan nad oes gennym staff sy’n siarad Cymraeg ar gael dros y ffôn ar hyn o bryd.