Mae cynhyrchion cuddliwio croen yn hufenau a phowdrau arbenigol sy’n gallu gwneud marciau a chreithiau’n llai o faint neu’n llai amlwg trwy gydweddu lliw â lliw croen eich claf. Rydym yn darparu’r gwasanaeth hwn am ddim i gleifion.
Ar y dudalen hon gallwch atgyfeirio claf am apwyntiad cuddliwio croen a gweld ein hamseroedd aros cyfredol.
Os ydych chi’n barod i atgyfeirio claf ar gyfer cuddliwio croen, ewch yn syth i’r ffurflen atgyfeirio gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Ynglŷn â’n Gwasanaeth Cuddliwio Croen
Mae ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen arbenigol yn cefnogi pobl yn Lloegr a’r Alban sydd â chraith, marc neu gyflwr croen anheintus ac sy’n chwilio am gymorth i wneud eu gwahaniaeth gweladwy yn llai amlwg.
Wedi’u cyflwyno gan ymarferwyr hyfforddedig, mae ein hapwyntiadau am ddim yn galluogi eich cleifion i roi cynnig ar guddliwio croen, a all fod yn offeryn effeithiol i reoli eu gwahaniaeth gweladwy.
I gael gwybod rhagor am ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen, gan gynnwys ble mae ar gael a sut mae’n cael ei ariannu, trowch at ein tudalen bwrpasol ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.
Quote – Rwy’n gwerthfawrogi’r caredigrwydd a’r cynhesrwydd gofal a gefais i yma yn fawr iawn. Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod wedi cael fy rhuthro o gwbl ac fe adewais yn teimlo’n hapus gyda’r canlyniadau ac fel pe bai fy holl gwestiynau wedi cael eu hateb. Diolch! Cleient y Gwasanaeth Cuddliwio Croen
Amseroedd aros
Mae amseroedd aros yn amrywio rhwng lleoliadau ein clinigau, ond ar gyfartaledd maent yn chwech i wyth mis. Weithiau, pan fydd apwyntiad wedi’i ganslo neu ei symud, efallai y byddwn yn gallu cynnig apwyntiad i’ch claf ar fyr rybudd.
Os hoffech wybod pa mor hir yw’r rhestr aros ar hyn o bryd yng Nghymru, cysylltwch â’r tîm cuddliwio croen drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 012 0276. Os mai Cymraeg yw eich dewis iaith, anfonwch e-bost atom gan nad oes gennym staff sy’n siarad Cymraeg ar gael dros y ffôn ar hyn o bryd.
Atgyfeirio claf
Gallwch atgyfeirio claf at ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen yng Nghymru drwy lenwi’r ffurflen we ddiogel isod.
Os hoffech atgyfeirio claf at ein Gwasanaeth Cuddliwio Croen yn Lloegr neu’r Alban, ewch i’n Gwefan Saesneg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth neu os hoffech drafod eich atgyfeiriad yn fanylach, cysylltwch â’r tîm cuddliwio croen drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 012 0276. Os mai Cymraeg yw eich dewis iaith, anfonwch e-bost atom gan nad oes gennym staff sy’n siarad Cymraeg ar gael dros y ffôn ar hyn o bryd.
[insert prof referral form]
